Pa dduw ymhlith y duwiau Sydd debyg i'n Duw ni? Mae'n hoffi maddau'n beiau, Mae'n hoffi gwrando'n cri; Nid byth y deil eiddigedd, Gwell ganddo drugarhau; Er maint ein hannheilyngdod, Mae'i gariad E'n parhau. Wel, dyma'r un sy'n maddeu Pechodau rif y gwlith; 'Does fesur ar ei gariad, Na therfyn iddo byth; Mae'n 'mofyn lle i fadeu, Mae'n hoffi trugarhau; Anfeidrol ras a chariad, Sydd ynddo yn parhau. Gwyn fyd y rhai dilëodd Eu camwedd oll i gyd, Gwyn fyd y rhai maddeuodd Eu pechod yn y byd; Gwyn fyd y rhai sancteiddiwyd, A olchwyd ar y llawr - Fe'u codir i'r gogoniant Drwy haeddiant Iesu mawr. O dyred IOR tragwyddol Mae ynot ti dy hun Fwy moroedd o drugaredd Nag a feddyliodd dyn; Os deui at bechadur, A'i godi ef i'r làn, Ei galon gaiff, a'i dafod, Dy ganmawl yn y man.
1 : David Saunders 1769-1840
Tonau [7676D]:
gwelir: |
What god among the gods Is similar to our God? He loves forgiving our faults, He loves hearing our cry; He will not hold on to jealousy, He prefers mercies; Despite the extent of our unworthiness, His love endures. See, here is one who forgives Sins as numerous as the dew; There is no measure to his love, Nor limit to it ever; He asks for a place to forgive, He loves to show mercy; Immeasurable grace and love, Are in him enduringly. Blessed are those whose every mistake He obliterated altogether, Blessed are those whose sin He forgave in the world; Blessed are those who were sanctified, And washed on earth below - They shall be raised to glory Through the merit of great Jesus. O come, eternal Lord, There is in thee thyself Greater seas of mercy Than man has thought; If thou comest to a sinner And liftest him up, His heart will get, and his tongue, To praise thee soon. tr. 2014,21 Richard B Gillion |
|